Rhagolwg: Met Caerdydd v Y Seintiau Newydd

1509_9121e

Nos Sadwrn bydd y pencampwyr yn teithio i’r brif ddinas, ble bydd Met Caerdydd yn gobeithio casglu eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn erbyn y Seintiau.

Met Caerdydd v Y Seintiau Newydd | Dydd Sadwrn – 19:00 (S4C)

Roedd na siom anferthol i’r Seintiau nos Fawrth wrth golli 2-1 yn erbyn Cei Connah yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru, ac felly dyma’r tro cyntaf ers wyth mlynedd i’r Seintiau fethu a chyrraedd y rownd gynderfynol.

Mae’r golled yn dod dim ond tair wythnos ers i dîm Scott Ruscoe gael eu curo gan Dumbarton yn rownd gynderfynol Cwpan Irn Bru, ac mae breuddwyd y ‘quadruple’ bellach wedi ei hanneru wrth i’r Seintiau lygadu’r dwbl (Cwpan y Gynghrair ac UG Cymru).

Mae’r Seintiau’n dechrau’r penwythnos 12 pwynt yn glir ar frig tabl UGC – ac angen dim mwy nac wyth pwynt o’u saith gêm sy’n weddill i sicrhau’r bencampwriaeth (gall y swm ostwng yn dibynnu ar ganlyniadau nos Wener).

Dyw hi heb fod yn gyfnod hawdd i Met Caerdydd sydd wedi colli saith o’u wyth gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth ac ond wedi curo Caerfyrddin (11eg) yn ystod y rhediad hwnnw.

Met Caerdydd yw unig glwb UGC i golli bob gêm ers yr hollt y tymor hwn, a dyw’r myfyrwyr ond wedi sgorio unwaith yn eu chwe gêm ddiwethaf.

Tydi Met ond wedi sgorio unwaith yn y bum gêm ddiwethaf yn erbyn YSN, a cic o’r smotyn oedd honno, felly mae ‘na 520 munud o bêl-droed wedi’w chwarae rhwng y timau ers i’r myfyrwyr sgorio o chwarae agored yn erbyn y Seintiau.

Ond ar ôl colli 1-0 yn erbyn y Seintiau yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair ym mis Ionawr mi fydd criw Christian Edwards yn ysu i gael talu’r pwyth yn ôl o flaen y camerâu nos Sadwrn.

Gemau diwethaf:
Met Caerdydd 0-1 Y Seintiau Newydd (20/01/18) Rownd Derfynol Cwpan y Gynghrair
Y Seintiau Newydd 2-1 Met Caerdydd (28/10/17)
Met Caerdydd 0-0 Y Seintiau Newydd (15/09/17)