Rhagolwg Rownd yr Wyth Olaf Cwpan Cymru

Football – Welsh Cup 3rd Round Draw
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 4 Mar 2018, 16:51

Oherwydd y tywydd drwg dros y penwythnos cafodd tair gêm o rownd yr wyth olaf eu gohirio, gyda’r gemau yn cael eu chwarae heno (nos Fawrth.) Mi fydd Cei Connah a’r Seintiau Newydd yn brwydro i groesawu Bangor yn rownd gynderfynol y gwpan, gyda Caerfyrddin neu Aberystwyth yn teithio i enillydd y gêm rhwng Llandudno a’r Drenewydd. Mi fydd Uchafbwyntiau’r gemau i’w gweld ar Mwy o Sgorio nos Fercher, 6:30 S4C.

Bangor yw’r unig tîm sydd yn sicr o’u lle yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru ar ôl trechu Penydarren 7-0 ar Nantporth dros y Sul. Mae gweddill y timau sydd ar ôl yng Nghwpan Cymru yn cystadlu heno am le yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth.

Rownd yr Wyth Olaf Cwpan Cymru
19:45 – Cei Connah v Y Seintiau Newydd
20:00 – Llandudno v Y Drenewydd
20:00 – Caerfyrddin v Aberystwyth

Nos Fawrth, 6 Mawrth

Cei Connah v Y Seintiau Newydd | Nos Fawrth – 19:45
Bydd y Seintiau’n dychwelyd i Stadiwm Glannau Dyfrdwy ddydd Sadwrn dim ond wythnos wedi eu buddugoliaeth o 0-1 yno yn UG Cymru.

YSN sydd wedi gyrru Cei Connah allan o Gwpan Cymru y ddau dymor diwethaf, ac allan o Gwpan y Gynghrair am yr eildro’n olynol eleni.

Mae’r Seintiau wedi curo Penrhyncoch a Chaernarfon yn y rowndiau diwethaf, tra bod Cei Connah wedi trechu Cwmbrân Celtic a Porthmadog.

YSN wedi codi’r gwpan chwe gwaith – ac wedi cyrraedd y rownd derfynol am y pedwar tymor diwethaf.

Mae Cei Connah wedi ennill Cwpan Cymru unwaith fel ‘Cei Connah & Shotton’ yn 1929 drwy guro Caerdydd yn y ffeinal ar y Cae Ras (3-0)

Gemau diwethaf:
Cei Connah 0-1 Y Seintiau Newydd (24/02/18)
Y Seintiau Newydd 3-0 Cei Connah (19/12/17)
Cei Connah 0-1 Y Seintiau Newydd (20/11/17) Rownd Gynderfynol Cwpan y Gynghrair
Cei Connah 2-2 Y Seintiau Newydd (10/10/17)

Caerfyrddin v Aberystwyth | Nos Fawrth – 20:00
Ar ôl y gêm ddramatig rhwng y ddau dîm yma’r Sul diwethaf ble rwydodd Caerfyrddin ddwywaith yn y munudau olaf i sicrhau gêm gyfartal (3-3), bydd y timau’n mynd benben unwaith eto’r wythnos yma yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru.

Sgoriodd y cefnwr de, Declan Walker, hat-tric i Aberystwyth ar Barc Waun Dew y penwythnos diwethaf, ond fe frwydrodd yr Hen Aur yn ôl i gipio pwynt yn y ras i osgoi’r cwymp y tymor yma.

Mae Aberystwyth wedi curo dau dîm o’r Chwech Uchaf i gyrraedd y rownd yma, ac heb ildio gôl yn y gemau hynny yn erbyn y Bala (4-0) a Met Caerdydd (0-1).

Mae Caerfyrddin wedi trechu Rhydaman (2-3) ac Airbus UK (1-4) o’r cynghreiriau îs i ddod cyn belled eleni.

Bydd Aber yn gobeithio cyrraedd y rownd gynderfynol am y tro cyntaf ers pedair mlynedd, tra bod yna naw mlynedd ers i Gaerfyrddin fynd heibio’r wyth olaf.

Dyw’r ddau dîm ond wedi ennill y cwpan unwaith – Caerfyrddin (2007), Aberystwyth (1900).

Gemau diwethaf:
Caerfyrddin 3-3 Aberystwyth (25/02/18)
Aberystwyth 1-2 Caerfyrddin (01/01/18)
Caerfyrddin 1-0 Aberystwyth (26/12/17)

Llandudno v Y Drenewydd | Nos Fawrth – 20:00
Mi fydd Llandudno yn gobeithio cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes tra bo’r Drenewydd wedi bod yn y ffeinal lai na tair mlynedd yn ôl.

Colli wnaeth y Robiniaid yn rownd derfynol 2014/15 (2-0 vs YSN), ond mae’r Drenewydd wedi codi’r cwpan ar ddau achlysur (1879 ac 1895).

Mae Llandudno a’r Drenewydd wedi curo dau dîm yr un o Gynghrair Huws Gray i gyrraedd y rownd yma – Llandudno’n curo Gresffordd a Rhuthun, tra bo’r Drenewydd wedi gyrru Cegidfa a’r Fflint allan o’r gystadleuaeth.

Roedd hi’n dipyn o gêm rhwng y ddau dîm fis diwethaf pan enillodd Y Drenewydd (3-4) ar Barc Maesdu, ac mi fydd y clybiau’n cwrdd eto cyn diwedd y mis yn y ras i gyrraedd y gemau ail gyfle.

Gêm ddiwethaf:
Llandudno 3-4 Y Drenewydd (03/02/18)
Y Drenewydd 2-1 Llandudno (14/12/17)
Llandudno 2-1 Y Drenewydd (28/10/17)