Rhagolwg: Y Barri v Y Drenewydd

trail_board[1]
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Iau, 12 Apr 2018, 19:41

Brynhawn Sul mi fydd Y Barri’n croesawu’r Drenewydd i Barc Jenner gan obeithio sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle.

Y Barri v Y Drenewydd | Dydd Sul – 15:30 (S4C)
Byddai gêm gyfartal yn ddigon i’r Barri sicrhau’r 7fed safle a chadarnhau eu lle yn y gemau ail gyfle.

Mae’r Barri wedi ennill eu chwe gêm ers yr hollt gan sgorio 14 o goliau, ildio dim ond tair gôl, ac mae’r golwr Mike Lewis wedi cadw tair llechen lân yn olynol.

Ond mae hi wedi bod yn dymor sâl i’r Drenewydd yn UG Cymru, ac mae’n hynod debygol na fydd y Robiniad yn cyrraedd y gemau ail gyfle am y tro cyntaf ers pum mlynedd.

Mae’r ddau glwb wedi bod heb eu prif flaenwr yn ddiweddar ond mae’n debygol y bydd Kayne McLaggon (12 gôl gynghrair) yn dychwelyd i dîm Y Barri y penwythnos hwn yn dilyn anaf i’w ffêr ym mis Chwefror.

Roedd yr ymosodwr wedi teithio gyda’r tîm i Brestatyn y penwythnos diwethaf cyn i’r gêm honno gael ei gohirio am y trydydd tro!

O ran Y Drenewydd, mae anaf Jamie Reed yn un fwy difrifol gan na fydd yn gallu chwarae eto’r tymor yma, a bydd gofyn i’w prif sgoriwr Nick Rushton i arwain y llinell flaen unwaith eto (8 gôl gynghrair).

Gemau diwethaf:
Y Drenewydd 1-2 Y Barri (17/02/18)
Y Drenewydd 3-0 Y Barri (18/11/17)
Y Barri 2-0 Y Drenewydd (09/09/17)

Bydd uchafbwyntiau holl gemau UG Cymru i’w gweld ar Sgorio ddydd Llun am 5:35 ar S4C.