Rhagolwg: Y Drenewydd v Aberystwyth

drenewydd v aber
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Gwener, 6 Apr 2018, 20:00

Bydd Y Drenewydd yn herio Aberystwyth yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru ddydd Sul, 8 Ebrill gyda’r cyfan yn fyw ar dudalen Facebook Sgorio am 12:00.

Dydd Sul, 8 Ebrill

Y Drenewydd v Aberystwyth | Dydd Sul – 12:00, Maes Tegid, Y Bala (Facebook Live)
Bydd Y Drenewydd yn gobeithio cyrraedd y rownd gynderfynol am y tro cyntaf ers tair mlynedd, tra bod yna bedair mlynedd ers i Aberystwyth gyrraedd y ffeinal.

Colli yn erbyn y Seintiau oedd hanes y ddau glwb yn rowndiau terfynol hynny – ac mae dros canrif ers i un o’r ddau dîm yma gael eu dwylo ar y cwpan.

1900 oedd y tro diwethaf a’r unig dro i Aberystwyth ennill Cwpan Cymru, ac mae’r Drenewydd wedi codi’r cwpan ar ddau achlysur (1879 ac 1895).

Mae Aberystwyth wedi curo tri thîm o UG Cymru i gyrraedd y rownd gynderfynol (Y Bala, Met Caerdydd a Chaerfyrddin), tra bo’r Drenewydd wedi gyrru Cegidfa, Y Fflint a Llandudno allan o’r gystadleuaeth.

Dyw’r clybiau heb gwrdd yng Nghwpan Cymru ers 22 mlynedd pan enillodd Aberystwyth 1-0 mewn gêm ail chwarae yn y 3edd rownd yn nhymor 1995/96.

Mae hi wedi bod yn dymor digon diflas i’r ddau glwb yn y gynghrair, ond byddai cyrraedd ffeinal y gwpan gyda’r posibiliad o fynd i Ewrop yn troi tymor siomedig i fod yn un arbennig.

Gemau diwethaf:
Y Drenewydd 0-1 Aberystwyth (10/03/18)
Aberystwyth 3-0 Y Drenewydd (24/11/17)
Y Drenewydd 4-0 Aberystwyth (16/09/17)

Bydd uchafbwyntiau holl gemau’r penwythnos i’w gweld ar Sgorio ddydd Llun am 5:35 ar S4C.

Heddiw mewn hanes

25 Ebrill

Ar y diwrnod yma yn 1981 llwyddodd Abertawe i faeddu Chelsea ar y Vetch diolch i goliau gan Neil Robinson, Jimmy Hadziabdic a Robbie James.