Rhagolwg: Y Seintiau Newydd v Derwyddon Cefn

A34I6421e
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Gwener, 23 Mar 2018, 09:00

Bydd camerau Sgorio yng Nghroesoswallt brynhawn Sul ble gall Y Seintiau Newydd gael eu coroni’n bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru am y seithfed tymor yn olynol.

Y Seintiau Newydd v Derwyddon Cefn | Dydd Sul – 14:00 (S4C)
Dim ond un pwynt sydd ei angen ar y Seintiau i sicrhau’r bencampwriaeth, ond mae posib y bydd tîm Scott Ruscoe yn cael eu coroni’n bencampwyr mor fuan a nos Wener os fydd Y Bala wedi methu a churo Cei Connah.

Hon fydd 12fed pencampwriaeth Y Seintiau Newydd, a’r seithfed yn olynol i’r clwb mwyaf llwyddiannus yn holl hanes Uwch Gynghrair Cymru.

Bydd y Derwyddon yn gorfod delio gydag absenoldeb eu prif sgoriwr a seren y tîm, Alec Mudimu, gan bod y gŵr 22 oed wedi ei ddewis i gynrychioli Zimbabwe yn y ‘Four Nations Tournament’ gyda Zambia, Angola a De Affrica.

Mae ‘na dros 10 mlynedd ers i’r Derwyddon guro’r Seintiau yn UG Cymru (1-0, Ricky Evans – Awst 2007), ac mae’r Seintiau ar rediad o 12 gêm gynghrair heb golli yn erbyn y Derwyddon ers hynny (ennill 10, cyfartal 2).

Mae’r Seintiau wedi sgorio o leiaf tair gôl ym mhob un o’u wyth gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Derwyddon Cefn yn UG Cymru!

Chwefror 2001 oedd y tro diwethaf i’r Derwyddon gasglu pwynt oddi cartref yn erbyn y Seintiau (3-3), ac mae ‘na dros 18 mlynedd ers i’r Derwyddon ennill oddi cartref yn erbyn y Seintiau yn UGC nôl yn Ionawr 2000 (0-3).

Gemau diwethaf:
Derwyddon Cefn 2-2 Y Seintiau Newydd (02/02/18)
Derwyddon Cefn 1-3 Y Seintiau Newydd (28/11/17)
Y Seintiau Newydd 4-0 Derwyddon Cefn (08/09/17)