Rhagolwg: Y Seintiau Newydd v Dumbarton

trail board TNS v DUMBARTON
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Iau, 15 Feb 2018, 13:06

Nos Sadwrn yma mi fydd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru, Y Seintiau Newydd yn herio Dumbarton yn rownd gynderfynol Cwpan Her Irn-Bru gyda’r cyfan yn fyw ar Sgorio am 7:15.

Mae’r Seintiau wedi llwyddo i gyrraedd y rownd gynderfynol am yr ail dymor yn olynol, ond bydd hogiau Scott Ruscoe yn gobeithio mynd gam ymhellach eleni.

Y tymor diwethaf, ar ôl trechu Forfar a Livingston, colli oedd hanes y Seintiau yn y rownd gynderfynol, ac hynny yn erbyn St.Mirren (4-1).

Y tymor yma, mae’r Seintiau wedi curo Livingston, Elgin City a Queen of the South i ddod cyn belled, a byddai curo Dumbarton yn golygu mae hogiau Scott Ruscoe fyddai’r tîm cyntaf o du allan i’r Alban i gyrraedd ffeinal Cwpan Her Irn-Bru.

Mae Cwpan Her yr Alban yn bodoli ers 1990/91 pan gynhaliwyd y gystadleuaeth am y tro cyntaf i ddathlu 100 mlwyddiant ers ffurfio’r gynghrair bêl-droed Albanaidd.

Yn wreiddiol, cystadleuaeth i glybiau cynghreiriau’r Alban o dan yr uwch gynghrair oedd hi, ond mae’r gystadleuaeth wedi ei newid yn ddiweddar i gynnwys 12 tîm dan20 clybiau Uwch Gynghrair Yr Alban, pedwar tîm yr un o’r Highland League a’r Lowland League (clybiau rhan amser Yr Alban), a dau glwb yr un o Weriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon a Chymru.

Dundee Utd yw deiliaid y gwpan ar ôl curo St Mirren yn rownd derfynol 2016/17.

Mae Dumbarton, sydd ger gwaelod tabl Pencampwriaeth yr Alban (ail haen pêl-droed yr Alban) eisoes wedi gyrru un o glybiau UG Cymru allan o’r gystadleuaeth eleni ar ôl trechu Cei Connah yn yr ail rownd (2-1 – wedi amser ychwanegol).

Ymunwch â Dylan Ebenezer, Nicky John, Owain Tudur Jones a Tomi Morgan ar Neuadd y Parc i weld os gall carfan Scott Ruscoe fynd gam ymhellach nag antur 2017 a chamu i rownd derfynol yn erbyn unai Inverness Caledonian Thistle neu Crusaders o Ogledd Iwerddon.

Y Seintiau Newydd v Dumbarton yn FYW ar S4C nos Sadwrn, 17 Chwefror am 19:15.

Heddiw mewn hanes

21 Medi

Ar y diwrnod yma ym 1966 chwaraeodd Abertawe y gêm Ewropeaidd cyntaf ar eu tomen eu hunain wrh i Slavia Sofia ymweld â'r Vetch.