Rhestr fer: Chwaraewr Ifanc y Tymor

sgorio young
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 22 May 2018, 16:19

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yng ngwobrau’r tymor ar yr 2il o Fehefin.

Matthew Hall – Bangor
Llwyddodd Hall, 20, I gadw 10 lechen lân mewn 22 gêm yn Uwch gynghrair Cymru I Fangor gan hefyd ennill seren y gêm mewn buddugoliaeth o 1-0 dros Y Seintiau Newydd.

Arwyddodd Hall o West Bromwich Albion ym mis Chwefror 2017.

Tom Holland – Y Seintiau Newydd
Enillodd Holland, 21, Cwpan y Gynghrair a’r Bencampwriaeth gyda’r Seintiau Newydd yn ei dymor cyntaf gyda’r Seintiau Newydd.
Arwyddodd y chwaraewr canol cae o Abertawe yn haf 2017, gan ymddangos 28 gwaith i’r pencampwyr y tymor hwn.

Dean Rittenberg – Bangor
Dean Rittenberg, 22, yw prif sgoriwr Bangor y tymor yma gyda 11 gôl gynghrair.
Llwyddodd y blaenwr i chwarae ym mhob gêm i Fangor yn Uwch Gynghrair Cymru, gyda’i goliau yn helpu’r Dinasyddion orffen yn yr ail safle.
Fe arwyddodd Rittenberg â Bangor o Blackburn yn Ionawr 2017. .

Luke Wall – Bangor
Arwyddodd y chwaraewr canol cae troed chwith â Fangor o Accrington Stanley yn 2017 gan chwarae pob gêm i Fangor yn Uwch Gynghrair Cymru’r tymor hwn.
Sgoriodd 8 gôl a chreu 6 i’r Dinasyddion Mae hi wedi bod yn dymor cyntaf rhagorol i Wall, 21, yn UG Cymru gyda’r gŵr ifanc yn serennu wrth sgorio 8 a chreu 6 gôl i’r Dinasyddion eleni.

Enillwyr diweddar:
2016/17 – Henry Jones – Bangor
2015/16 – James Murphy (Airbus UK)
2014/15 – Sean Miller (gap Cei Connah)
2013/14 – Sam Finley (Y Seintiau Newydd)
2012/13 – Ryan Fraughan (Y Seintiau Newydd)
2011/12 – Kai Edwards (Castellnedd)