Robiniaid y canolbarth a Dreigiau’r de yn hedfan tua’r brig

Bala Home Rushton

Tra bo’r ddau ar y brig yn cystadlu yng Nghwpan Her Irn Bru dros y penwythnos, mae gan Y Drenewydd a’r Barri gyfle i ddringo i’r copa yn UG Cymru.

Dydd Sadwrn, 8 Medi

Caerfyrddin v Y Drenewydd | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Drenewydd wedi dringo i’r trydydd safle yn dilyn tair llechen lân yn olynol yn UG Cymru yn cynnwys eu buddugoliaeth wych yn erbyn Y Bala ddydd Sadwrn diwethaf.

Y Drenewydd a’r Seintiau sydd â’r record amddiffynnol orau yn UGC y tymor hwn (ildio 2 gôl mewn 4 gêm).

Roedd yna ddathlu hefyd yn ‘stafell newid yr Hen Aur y penwythnos diwethaf wrth iddyn nhw roi sioc i’r myfyrwyr ar Barc Waun Dew (2-0) gan sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor.

Mae Caerfyrddin wedi ennill 3-2 yn eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd.

Llandudno v Y Barri | Dydd Sadwrn – 14:30
Fe all Y Barri orffen y penwythnos ar frig UG Cymru ond bydd angen curo Llandudno i wneud hynny.

Dyw’r Barri heb golli dim un o’u tair gêm ddiwethaf yn UG Cymru ers eu crasfa yn Neuadd y Parc ar y penwythnos agoriadol (YSN 5-1 Barri).

Mae Dreigiau Gavin Chesterfield wedi curo’r Bala a Chei Connah ar Barc Jenner, ond heb ennill dim un o’u tair gêm oddi cartref y tymor hwn (2 UGC, 1 Cwpan MG).

Llandudno sydd ar waelod y tabl ar ôl sgorio dim ond un gôl yn eu pedair gêm gynghrair y tymor hwn, a nhw yw’r unig glwb sydd yn dal i ddisgwyl am eu buddugoliaeth cyntaf yn UG Cymru 2018/19.

Mae’r Barri wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Llandudno.

Y Bala v Llanelli | Dydd Sadwrn – 14:30
Roedd hi’n ganlyniad siomedig i’r Bala y penwythnos diwethaf wedi iddyn nhw golli ar Barc Latham am y tro cyntaf ers pum mlynedd.

Mae’r Bala wedi ennill eu dwy gêm gartref y tymor yma, ond wedi colli eu dwy gêm oddi cartref.

Hon fydd y gêm gyntaf rhwng y clybiau ers Ebrill 2013 pan enillodd Y Bala 1-5 ar Barc Stebonheath.

Dyw Llanelli na’r Bala heb gadw llechen lân yn UGC y tymor hwn.

Dydd Sul, 9 Medi

Met Caerdydd v Derwyddon Cefn | Dydd Sul – 14:30
Bydd myfyrwyr Met yn gobeithio talu’r pwyth yn ôl i’r Derwyddon wedi i dîm Huw Griffiths guro criw’r brifddinas yn rownd derfynol y gemau ail gyfle ym mis Mai i gipio’r tocyn olaf i Ewrop (1-0).

Ar ôl dechrau’n gryf trwy guro’r Drenewydd ac Aberystwyth, mae Met Caerdydd wedi colli eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon a Chaerfyrddin gan fethu a sgorio yn y ddwy gêm.

Roedd yna ryddhad yng ngharfan y Derwyddon yn dilyn eu triphwynt yn erbyn Llandudno’r penwythnos diwethaf i godi hogiau’r Graig oddi ar gwaelod y domen.

Mae’r Derwyddon wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd.

Bydd uchafbwyntiau holl gemau UG Cymru i’w gweld ar Sgorio bob prynhawn Llun am 5:35 ar S4C.