Rownd Derfynol Gemau Ail Gyfle UG Cymru: Derwyddon Cefn v Met Caerdydd

IMG_3391

Gêm sydd werth €220,000 a thocyn i Ewrop i’r enillwyr…

Derwyddon Cefn v Met Caerdydd | Dydd Sul – 12:25 (S4C)
Bydd enillwyr y gêm hon yn sicrhau eu lle yn rownd gynragbrofol Cynghrair Europa 2018/19.

Mae’r Seintiau Newydd, Cei Connah a’r Bala eisoes wedi sicrhau eu lle yn Ewrop.

Ar ôl gorffen yn y 5ed safle fe sicrhaodd y Derwyddon eu lle yn ffeinal y gemau ail gyfle, ond roedd rhaid i’r myfyrwyr drechu Y Barri yn y rownd gynderfynol y penwythnos diwethaf (4-1) i ddod o fewn un gêm i gyrraedd Ewrop.

Dyw Met Caerdydd erioed wedi chwarae’n Ewrop, ond bydd Christian Edwards yn benderfynol o newid hynny wedi i’r myfyrwyr ddod mor agos y tymor diwethaf.

Y tymor diwethaf fe enillodd Met Caerdydd yn erbyn Caerfyrddin (1-2) yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle, cyn colli ym Mangor yn y ffeinal (1-0).

Mae’r Derwyddon wedi cynrychioli Cymru yn Ewrop unwaith o’r blaen – hynny yn haf 2012 wedi iddynt gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru 2011/12 (y rheolau wedi newid bellach).

MYPA o’r Ffindir oedd eu gwrthwynebwyr yn Ewrop, ac wedi gêm ddi-sgôr yn y cymal cyntaf, fe gollodd y Derwyddon 5-0 yn yr ail gymal.

Mae’r Derwyddon wedi ennill tair o’u pedair gêm ddiwethaf, yn cynnwys buddugoliaeth gartref yn erbyn Met Caerdydd.

Ond mae’r golled honno wedi ysgogi’r myfyrwyr i fynd ar rediad campus gan sgorio 11 gôl yn eu tair gêm ers hynny (4-3 vs Bala, 3-3 vs YSN, 4-1 vs Barri).

Fe ddechreuodd tymor Met Caerdydd gyda buddugoliaeth gyfforddus ar y Graig (0-3), ond tybed pwy fydd yn dathlu brynhawn Sul wedi’r chwiban olaf yng ngêm olaf tymor 2017/18?

Gemau diwethaf:
Derwyddon Cefn 3-1 Met Caerdydd (14/01/18)
Met Caerdydd 1-3 Derwyddon Cefn (17/02/18)
Met Caerdydd 1-1 Derwyddon Cefn (19/11/18)
Derwyddon Cefn 0-3 Met Caerdydd (12/07/17)