Ryan Giggs yw rheolwr newydd Cymru

Football – Wales appoint Ryan Giggs as National Team manager
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 15 Jan 2018, 13:47

Cafodd cyn-gapten Cymru, Ryan Giggs ei benodi yn swyddogol prynhawn Llun (15 Ionawr) gan Cymdeithas Bêl-droed Cymru, gan olynu Chris Coleman fel rheolwr y tim cenedlaethol.

Enillodd Giggs 64 cap gan sgorio 12 o goliau dros ei wlad a dyma swydd cyntaf parhaol y cyn-chwaraewr Manchester United fel rheolwr.

Mi fydd ei gêm gyntaf fel rheolwr yn Nanning lle fydd Cymru yn herio Tsieina yng nghystadleuaeth Cwpan Tsieina ar y 22ain o Fawrth, 2018.