S4C yn cyhoeddi darllediad byw o gemau Cynghrair y Cenhedloedd a gemau rhagbrofol Ewro 2020

giggs 1
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 3 Sep 2018, 10:10

Cyhoeddodd S4C heddiw eu bod am ddarlledu pob un o gemau Cymru yn nhwrneimant Cynghrair y Cenhedloedd UEFA a gemau rhagbrofol Pencampwriaeth UEFA Ewro 2020 yn fyw. Mae’r cytundeb gyda deiliad hawliau’r DU ac Iwerddon, Sky Sports, hefyd yn cynnwys dwy gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen ac Albania.

Mae’r cytundeb ar gyfer 16 gêm yn golygu y bydd modd i wylwyr fwynhau’r arlwy yn fyw ar deledu am ddim ac yn yr iaith Gymraeg. Y gemau cyntaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd fydd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Iau 6 Medi am 7.30, ac yna tridiau yn ddiweddarach yn erbyn Denmarc yn Aarhus, ar brynhawn Sul am 4.45.

Mae’r ddwy gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen yng Nghaerdydd ar 11 Hydref ac oddi cartref yn Albania ar 20 Tachwedd.

Mae gemau rhagbrofol UEFA Ewro 2020 yn dechrau ym mis Mawrth 2019, gyda phob un o’r deg gêm i’w dangos yn fyw yn yr iaith Gymraeg ar y sianel genedlaethol am ddim.

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees, “Mae hyn yn newyddion ardderchog i wylwyr S4C ac i gefnogwyr pêl-droed Cymru. Yr ydym i gyd yn cofio’r gystadleuaeth Ewro ddiwethaf yn 2016 a’r llawenydd a’r pleser a ddaeth hynny i bawb yng Nghymru. Roedd yn fraint i allu dod â’r profiadau hynny i’n gwylwyr. Gobeithio y bydd y ffordd i 2020 yr un mor gyffrous a llwyddiannus ar y maes ac ar y sgrin.”

Yn cyflwyno bydd tîm profiadol y gyfres Sgorio, ac ar gyfer y gem fyw gyntaf yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, mi fydd y cyn chwaraewyr rhyngwladol Cymru, John Hartson, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn cadw cwmni i Dylan Ebenezer yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Manylion Gemau

Cynghrair y Cenhedloedd UEFA
Dydd Iau 6 Medi 2018, 7.30
Cymru v Gweriniaeth Iwerddon
Stadiwm Dinas Caerdydd
Cic Gyntaf 7.45

Cynghrair y Cenhedloedd UEFA
Dydd Sul 9 Medi 2018, 4.45
Denmarc v Cymru
Parc Ceres, Aarhus
Cic Gyntaf 5.00

Gêm Gyfeillgar
Dydd Iau 11 Hydref 2018
Cymru v Sbaen
Stadiwm y Principality, Caerdydd
Cic Gyntaf 7.45

Cynghrair y Cenhedloedd UEFA
Dydd Mawrth 16 Hydref 2018
Gweriniaeth Iwerddon v Cymru
Stadiwm Aviva, Dulyn
Cic Gyntaf 7.45

Cynghrair y Cenhedloedd UEFA
Dydd Gwener 16 Tachwedd 2018
Cymru v Denmarc
Stadiwm Dinas Caerdydd
Cic Gyntaf 7.45

Gêm Gyfeillgar
Dydd Mawrth 20 Tachwedd 2018
Albania v Cymru
Arena Elbasen, Elbasen
Cic Gyntaf i’w gadarnhau

Tynnu enwau ar gyfer y gemau rhagbrofol, Dulyn 2 Rhagfyr 2018

Gemau Rhagbrofol Ewro (deg diwrnod gêm) 21–26 Mawrth, 7–8 & 10–11 Mehefin, 5–10 Medi, 10–15 Hydref & 14–19 Tachwedd 2019.

Heddiw mewn hanes

20 Medi

Ar y diwrnod yma yn 2009 dechreuodd Cymru eu hymgyrch yng ngemau rhagbrofol Cwpan Merched y Byd gyda gêm gartref yn erbyn Gwlad Belg.