Sgorio

IMG_9887
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 15 Jan 2018, 09:55

Ymunwch a Morgan Jones am holl gyffro penwythnos olaf Uwch Gynghrair Cymru JD. Ymhlith y prif gemau fydd yn penderfynu pa glybiau fydd yn y chwech uchaf ar gyfer ail ran y tymor, mae Derwyddon Cefn yn herio Llandudno a’r Bala ar grwydr i Barc Jenner i wynebu’r Barri. Mae’r Seintiau Newydd gartref yn erbyn Bangor a Chei Connah yn teithio i Aberystwyth. Sgorio, dydd Llun am 17:35 ar S4C.