Sgorio

Cwpan Cymru
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 29 Jan 2018, 11:01

Ymunwch â Morgan Jones ar gyfer uchafbwyntiau pedwaredd rownd Cwpan Cymru JD. Y cyfan ar Sgorio, nos Lun am 5:35 ar S4C

Mae Llandudno yn croesawu Rhuthun i Barc Maesdu tra bo Caernarfon gartref yn erbyn Y Seintiau Newydd, Bangor ar grwydr i Lanrhaeadr ym Mochnant a Phorthmadog yn mentro i Gei Connah. Yn y gemau eraill mae Met Caerdydd yn herio Aberystwyth, Airbus benben a Chaerfyrddin, Y Fflint yn wynebu’r Drenewydd a Phontypridd yn cwrdd a chlwb lleia’r 16 olaf, Penydarren.