Ymunwch â Morgan Jones ar gyfer holl uchafbwyntiau’r penwythnos o Uwch Gynghrair Cymru JD. Sgorio, nos Lun am 5:35 ar S4C.
Yn y chwech uchaf mae’r Seintiau yn herio Bangor, Met Caerdydd yn wynebu Cei Connah â’r Bala gartref yn erbyn Derwyddon Cefn, tra bo Aberystwyth benben â Llandudno a Chaerfyrddin yn croesawu’r Drenewydd i Barc Waun Dew yn yr hanner isaf.
Cafodd y gêm rhwng Prestatyn a’r Barri ei ohirio oherwydd dŵr ar y cae.
Ar y diwrnod yma ym 1992, chwaraeodd Kit Symons ei gêm gyntaf erioed i Gymru.