Mwy o Sgorio

sgorio jess
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 8 May 2018, 10:49

Mae blas Americanaidd i’r rhaglen yr wythnos hon, gyda dwy eitem arbennig am y Cymry sy’n gwneud argraff yn yr Unol Daleithiau. Cawn glywed sut mae’r golwr Owain Fon Williams yn setlo yn Indianapolis, gyda thim yr Indy Eleven, tra draw yn Seattle, byddwn yn clywed am bennod ddiweddaraf gyrfa fyd-eang Jess Fishlock. Bydd y cyn-chwaraewr rhyngwladol, Owain Tudur Jones, yn ymuno a Dylan Ebenezer ar y soffa i drin a thrafod straeon pel-droed yr wythnos.

Mwy o Sgorio, nos Fercher am 18:30