Sgorio

Barry Vs Newtown Phase 2 10
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 16 Apr 2018, 09:50

Ymunwch â Morgan Jones am holl gyffro Uwch Gynghrair Cymru JD. Mae’r ras am yr ail safle a sicrwydd o brofiad Ewropeaidd yn parhau wrth i Gei Connah herio Bangor tra bo’r Bala yn wynebu’r Seintiau Newydd. Yn y chwech isaf mae Aberystwyth angen buddugoliaeth ym Mhrestatyn i sicrhau tymor arall yn yr Uwch Gynghrair gyda Chaerfyrddin yn brwydro am eu heinioes wrth wynebu Llandudno ar Barc Waun Dew. Bydd Y Barri yn croesawu’r Drenewydd i Barc Jenner wrth baratoi am gemau ail gyfle Cynghrair Europa.

Sgorio, nos Lun, 5.35 ar S4C.