Sgorio

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 22 Hyd 2018, 08:38

Y frwydr tua’r brig sy’n hawlio’r sylw wythnos yma wrth i’r Seintiau Newydd gwrdd a Chei Connah. Mae’r Seintiau wedi ennill y bencampwriaeth 7 gwaith yn olynol ond mae’r Nomadiaid yn fygythiad enfawr tymor yma.

Bydd yna sylw hefyd i’r gemau o Gaernarfon i Gaerfyrddin yn ogystal a’r gem ddarbi yn y de – Y Barri yn erbyn Llanelli.

Morgan Jones sy’n cyflwyno’r gorau o Uwch Gynghrair Cymru am 5:30 ar S4C.