Sgorio

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 19 Tach 2018, 10:24

Gem rhwng dau o’r clybiau mwyaf llwyddiannus yn hanes Uwch Gynghrair Cymru sy’n hawlio’r sylw ar benwythnos prysur arall. Y Barri oedd y cewri cyntaf cyn i’r Seintiau Newydd ddechrau rheoli. Ac mae’r ddau glwb yma wedi ennill y gynghrair 19 gwaith ar draws y blynyddoedd.

Bydd sylw hefyd i Gei Connah wrth i fechgyn Andy Morrison deithio i’r Alban i wynebu Queens Park yn rownd yr wyth olaf Cwpan Her yr Irn Bru.

Bydd uchafbwyntiau hefyd o weddill y gemau yn Aberystwyth, Caernarfon, Llandudno, Llanelli a’r Drenewydd.

Sgorio, nos Lun am 5:30 ar S4C.