Sgorio i ddangos Cei Connah wrth iddyn nhw geisio creu hanes yng Nghwpan Irn Bru

irn_bru_cup_2
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 4 Dec 2018, 11:58

Bydd Cei Connah yn herio Dinas Caeredin yn rowndiau cynderfynol Cwpan Her Irn Bru yr Alban a bydd yn gêm i’w weld yn fyw ar S4C. Bydd criw Sgorio yn darlledu’n fyw o Stadiwm Glannau Dyfrdwy ar nos Sadwrn 16 Chwefror, wrth i dîm Andy Morrison geisio cyflawni rhywbeth nad yw tîm o Gymru erioed wedi gwneud o’r blaen, sef cyrraedd r­­ownd derfynol y gystadleuaeth. Bydd y gic gyntaf am 7.25.

Bydd enillydd y gêm hon yn cwrdd â Ross County, East Fife neu Bohemian FC, o Ddulyn, yn y rownd derfynol, fydd yn cael ei chwarae yn Hampden Park.

Buddugoliaethau dros Falkirk, Coleraine o Ogledd Iwerddon a Queen’s Park, yn Hampden Park, sydd wedi sicrhau lle’r Nomads ym mhedair olaf y gystadleuaeth, a bellach, 90 munud yn unig sy’n eu gwahanu nhw o’r ffeinal.