Sgorio Rhyngwladol: Albania v Cymru

giggs 1
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 20 Nov 2018, 11:53

Mae tim Cymru yn teithio i Albania ar gyfer y gêm gyntaf rhwng y gwledydd ers 1995 yn Stadiwm Elbasen. Dyma gêm olaf Y Dreigiau yn 2018 ac ar ôl cael ei benodi yn rheolwr ym mis Ionawr bydd y rheolwr, Ryan Giggs eisiau gorffen y flwyddyn mewn steil. Ymunwch â chriw Sgorio nos Fawrth am 6:35 ar gyfer pêl droed rhyngwladol yn fyw o ddinas Elbasen.