Shkëndija 5-0 Y Seintiau Newydd

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 11 Jul 2018, 10:08

Roedd hi’n noson i’w anghofio i’r Seintiau Newydd wrth iddyn nhw golli 0-5 oddi cartref yn Skopje yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Er bod Y Seintiau yn disgwyl her anodd, mae’r canlyniad yn ergyd fawr i Scott Ruscoe a’i chwaraewyr.

Llwyddodd Shkëndija i ennill y gynghrair o 35 pwynt tymor diwethaf, gan hefyd gyrraedd rownd ragbrofol olaf Cynghrair Europa, cyn colli yn y pendraw i AC Milan.

Sgoriodd Izair Emini o fewn y chwarter awr agoriadol cyn i ymosodwr rhyngwladol Macedonoia, Besart Ibraimi ddyblu’r fantais 7 munud cyn yr egwyl.

Ac Ibraimi oedd seren y sioe wrth iddo daro tair arall yn yr ail hanner i gwblhau noson ddiflas i’r tîm o Groesoswallt.

Mi fydd yr ail gymal yn cael ei chynnal ar Neuadd y Parc nos Fawrth nesaf, 17eg o Orffennaf.

Bydd yr enillwyr dros y ddwy gêm yn wynebu enillydd y gêm rhwng FC Torpedo Kutaisi o Georgia a FC Sheriff o Moldova