Taith i Felarws i’r Nomadiaid

cei connah belarws
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 20 Jun 2018, 10:40

Cei Connah i wynebu Shakhtyor Soligorsk o Felarws yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa. Bydd y cymal cyntaf yn cael ei chwarae ar Y Belle Vue, Y Rhyl ar y 12fed o Orffennaf, gyda’r ail gymal yn cael ei chwarae ym Melarws ar y 19eg o Orffennaf.

Bydd Cei Connah yn wynebu Shakhtyor Soligorsk o Uwch Gynghrair Belarws yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa.

Ers sefydlu eu lle yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes yn 2016 mae Cei Connah wedi sicrhau pêl-droed Ewropeaidd am y tri thymor diwethaf. Llwyddodd tîm Andy Morrison i ennill eu rownd gyntaf erioed yng Nghynghrair Europa yn erbyn Stabaek o Norwy (0-1), ond i golli’r ail rownd 1-3 yn erbyn Vojvodina o Serbia yn 2016.

Llwyddodd Y Nomadiaid i guro HJK Helsinki yn cymal cartref rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa tymor diwethaf 1-0, ond yn colli’r rownd ragbrofol gyntaf 1-3 ar ôl ildio tair oddi cartref yn Helsinki.

Llwyddodd Shakhtyor Soligorsk i orffen tymor diwethaf yn yr ail safle yn Uwch Gynghrair Belarws ac mae’r clwb wedi cystadlu yng Nghynghrair Europa ers 2011.

Dyw’r clwb o Felarus erioed wedi cyrraedd rownd y grwpiau yng Nghynghrair Europa – ond fe lwyddodd y clwb i gyrraedd y gemau ail gyfle yn ôl yn 2015, ond i golli 0-3 yn erbyn PSV Eindhoven.

Tymor diwethaf fe gollodd Shakhtyor Soligorsk yn y rownd ragbrofol gyntaf o 1-2 yn erbyn FK Suduva o Lithuania.

Mae carfan Shakhtyor Soligorsk llawn chwaraewyr sydd wedi chwarae ar y llwyfan rhyngwladol i dîm cenedlaethol Belarws, gydag Dzyanis Laptsew (12 cap), Syarhey Matsveychyk (11 cap) a Yury Laptsew (12 cap) wedi ennill dros 10 cap i’w gwlad.