Y Bala v Met Caerdydd – yn fyw ar S4C

HJ
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mercher, 31 Oct 2018, 11:25

Darllediad byw o’r gêm bêl-droed Uwch Gynghrair Cymru JD rhwng Y Bala a Met Caerdydd – nos Sadwrn am 7:20 ar S4C.

Mae’r ddau dîm wedi treulio’r tymhorau diwethaf yn cystadlu yn yr hanner uchaf ond mae cysondeb wedi bod yn broblem tymor yma.

Ar eu gorau, mae’r clybiau yn gallu ennill yn erbyn unrhyw un – ond mae’r ddau yn gallu colli yn erbyn unrhyw un hefyd.

Cyrraedd Ewrop yw’r gobaith a bydd criw Sgorio ar Faes Tegid ar gyfer y gêm.

Y Bala v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 19:30 (S4C)
Dros hanner ffordd at yr hollt ac mae’r ras i gyrraedd y Chwech Uchaf wedi dechrau.

Mae’r Bala wedi sicrhau lle yn y Chwech Uchaf yn eu pedwar tymor diwethaf, tra bod Met Caerdydd hefyd wedi cyrraedd yr hanner uchaf yn eu dau dymor ers ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

Mae’r clybiau’n dechrau’r penwythnos yn y 5ed a’r 6ed safle, a byddai buddugoliaeth i’r myfyrwyr yn eu codi uwchben criw Colin Caton.

Dyw Met Caerdydd erioed wedi ennill oddi cartref yn erbyn Y Bala, na chwaith wedi cael pwynt yno yn y pedair gêm flaenorol rhwng y clybiau ar Faes Tegid felly fydd hi’n dipyn o her i hogiau Christian Edwards nos Sadwrn.

Nos Fawrth, fe sicrhaodd Met Caerdydd eu lle yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG gan guro Hwlffordd (6-0), ond colli oedd hanes Y Bala gartref yn erbyn Cei Connah (0-1).

Canlyniadau diwethaf yn UGC:
Y Bala: ✅➖✅✅❌
Met Caerdydd: ✅❌✅➖➖