Y Barri un cam o’r gemau ail gyfle

Barry Vs Prestatyn Phase 2 02
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Gwener, 6 Apr 2018, 11:34

Yn yr unig gêm gynghrair y penwythnos yma, byddai pwynt i’r Barri ym Mhrestatyn yn ddigon i sicrhau’r 7fed safle ac i gadarnhau eu lle yn y gemau ail gyfle.

Dydd Sadwrn, 7 Ebrill

Prestatyn v Y Barri | Dydd Sadwrn – 14:30
Y ddau glwb yma enillodd ddyrchafiad i UG Cymru y tymor diwethaf, a tra bo tynged Prestatyn wedi ei selio yn y ddau isaf, mae’r Barri yn cystadlu am safle Ewropeaidd.

Wythnos wedi i’r clybiau gwrdd ar Barc Jenner ble roedd y fuddugoliaeth i’r Barri yn ddigon i yrru tîm Gareth Wilson i Gynghrair Huws Gray, bydd hogiau Gavin Chesterfield yn gobeithio parhau â’u record rhagorol i gyrraedd y gemau ail gyfle.

Y Barri yw’r unig glwb i ennill pob gêm ers yr hollt yn UG Cymru, ac mae tîm Gavin Chesterfield naw pwynt yn glir yn y ras am y gemau ail gyfle, ac hynny gyda gêm wrth gefn.

Dyw’r Barri ond wedi ildio tair gôl yn eu chwe gêm yn ail ran y tymor, gan gadw tair llechen lân yn olynol.

Mae Prestatyn ar rediad o 15 gêm heb ennill ym mhob cystadleuaeth (cyfartal 2, colli 13) ac am ddychwelyd i Gynghrair Huws Gray ar ôl un tymor yn ôl yn y brif adran.

Ond Prestatyn oedd yn fuddugol y tro diwethaf i’r timau gwrdd ar Erddi Bastion diolch i gôl hwyr Michael Parker.

Gemau diwethaf:
Y Barri 2-0 Prestatyn (23/12/17)
Y Barri 4-0 Prestatyn (23/12/17)
Prestatyn 1-0 Y Barri (19/08/17)

Bydd uchafbwyntiau holl gemau’r penwythnos i’w gweld ar Sgorio ddydd Llun am 5:35 ar S4C.