Y Nomadiaid yn sicrhau eu lle yn wyth olaf Cwpan Her Irn Bru

NCM_3786
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sadwrn, 13 Hyd 2018, 21:21

Y Nomadiaid yn sicrhau eu lle yn wyth olaf Cwpan Her Irn Bru SPFL yr Alban wedi buddugoliaeth o 2-0 gôl yn erbyn Coleraine o Ogledd Iwerddon.

Llwyddodd bechgyn Andy Morrison sydd ar frig Uwch Gynghrair Cymru i drechu bechgyn Rodney McAree mewn gêm gystadleuol ar Lannau Dyfrdwy.

Daeth y ddwy gôl yn yr ail-hanner – peniad George Horan wedi 60 munud ac Andy Owens yn canfod cefn y rhwyd o groesiad Michael Bakare yn y munudau olaf.

Dangoswyd dwy gerdyn coch i ddau o chwaraewyr Coleraine, Stephen Lowry a Stephen O’Donnell wedi 65 munud i ychwanegu at noson rwystredig i’r ymwelwyr.

Bydd rownd yr wyth olaf yn cael ei chwarae ar benwythnos 17/18 Tachwedd 2018.