Y Seintiau Newydd allan o Gwpan Her yr Alban

irn_bru_cup_2
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sadwrn, 17 Chw 2018, 22:12

Tîm Scott Ruscoe yn colli yn y rownd gynderfynol am yr ail dymor yn olynol wrth i Dumbarton ennill 1-2 ar Neuadd y Parc.

Gyda’r Seintiau yn rheoli’r hanner cyntaf roedd gobaith fod Y Seintiau am gyrraedd rownd derfynol Cwpan Her yr Irn Bru – gyda Aeron Edwards yn dod yn agos yn y munudau cynnar gan benio ar y trawst.

Llwyddodd y tîm cartref i fynd ar y blaen diolch i Dean Ebbe, ond sgoriodd Danny Handling gôl hyfryd o du allan i’r cwrt cosbi i unioni’r sgôr.

Cic-rydd ryfeddol gan Dimitris Froxylias enillodd y gêm i Dumbarton gan yrru’r tîm o’r Alban i’r rownd derfynol.

Mi fydd Dumbarton y nawr yn herio Inverness Caledonian Thistle neu’r Crusaders o Ogledd Iwerddon yn y rownd derfynol.