Y Seintiau Newydd i deithio i Facedonia yng Nghynghrair y Pencampwyr

tns first round WEFAN
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 10 Jul 2018, 08:13

Y Seintiau Newydd i wynebu KF Shkëndija pencampwyr Uwch Gynghrair Macedonia yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr. Bydd y cymal cyntaf yn cael ei gynnal ar y 10fed o Orffennaf yn yr Ecolog Arena, cartref Shkëndija, gyda’r ail gymal yn cael ei chwarae ar Neuadd y Parc yr wythnos ganlynol, 17eg o Orffennaf.

Bydd tîm Scott Ruscoe yn teithio i gartref KF Shkëndija, yr Ecolog Arena, yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr ar Orffennaf 10/11.

Mae’r Seintiau wedi llwyddo i ennill yn y rownd ragbrofol gyntaf am y tri thymor diwethaf, ond bydd dipyn o her yn eu disgwyl ym Macedonia.

Ers ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Macedonia yn 2010 mae KF Shkëndija wedi ennill y bencampwriaeth ddwywaith, y cyntaf yn 2010-11 ar ail y tymor diwethaf.

Llwyddodd Shkëndija i ennill y gynghrair o 35 pwynt tymor diwethaf, yn ogystal â chyrraedd rownd y gemau ail gyfle yng ngemau rhagbrofol Cynghrair Europa.

Fe enillodd KF Shkëndija dair rownd ragbrofol ar eu ffordd i’r gemau ail gyfle cyn wynebu AC Milan – ond i golli 0-7 dros ddau gymal.

Mae carfan Shkëndija yn llawn chwaraewyr rhyngwladol, gyda Ferhan Hasani wedi ennill 31 cap i Facedonia, Besart Ibraimi wedi ennill 15 cap a Marjan Radeski wedi ennill 13.

Os yw’r Seintiau yn llwyddiannus yn y rownd gyntaf bydd tîm Scott Ruscoe yn wynebu FC Torpedo Kutaisi (Georgia) neu FC Sheriff (Moldova) yn yr ail rownd ragbrofol.