Y Seintiau Newydd v Cei Connah

Dpr_PcdX4AAQfeg
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 19 Hyd 2018, 16:20

Gêm enfawr ar Neuadd y Parc wrth i Gei Connah, sydd ar frig Uwch Gynghrair Cymru, deithio i gartref y pencampwyr, Y Seintiau Newydd!

Darllediad byw o gêm bêl droed Uwch Gynghrair Cymru JD Y Seintiau Newydd v Cei Connah, o Neuadd y Parc. Y Seintiau sydd wedi rheoli’n llwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond mae Cei Connah yn fygythiad enfawr y tymor yma. Ar ôl ennill y gêm ddiwethaf rhwng y clybiau bydd y Nomadiaid yn gobeithio ail adrodd y gamp yng nghartref y pencampwyr. Ymunwch a chriw Sgorio i weld os oes yna newid ar y gorwel yn y gynghrair.Dydd Sadwrn am 7.20, gyda’r gic gyntaf am 7.45.

Y Seintiau Newydd v Cei Connah | Nos Sadwrn – 19:30 (S4C)
Mae hi am fod yn dipyn o gêm yn Neuadd y Parc gyda’r Seintiau’n gwybod y byddai buddugoliaeth yn eu codi uwchben Cei Connah i frig y tabl.

Ond wedi saith buddugoliaeth yn olynol, mae’r hyder yn sicr yn uchel yng ngharfan Andy Morrison.

Mae Cei Connah eisoes wedi curo’r Seintiau unwaith y tymor hwn, a byddai triphwynt arall yn mynd a’r Nomadiaid bum pwynt yn glir ar y copa.

Mae’r Seintiau wedi sgorio cyfartaledd o 4.6 gôl y gêm gartref yn Neuadd y Parc y tymor hwn, felly bydd angen i Gei Connah fod ar eu gorau os am ennill gêm oddi cartref yn erbyn y Seintiau am y tro cyntaf ers 23 o flynyddoedd (Hydref 1995)!

Canlyniadau diwethaf yn UGC:
YSN: ✅➖❌✅✅
Cei Connah: ✅✅✅✅✅