Y Seintiau Newydd v FC Midtjylland yn fyw ar S4C

tns v midj
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 8 Aug 2018, 10:45

Mi fydd Y Seintiau Newydd yn herio pencampwyr Superliga Denmarc, FC Midtjylland, yn nhrydedd rownd rhagbrofol Cynghrair Ewropa UEFA, ac mi fydd y cymal cyntaf i’w weld yn fyw ar S4C. Nos Iau, 9 Awst am 19:30, gyda’r gic gyntaf am 19:45.

Mi fydd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru JD, Y Seintiau, yn croesawu FC Midtjylland i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer y cymal cyntaf nos Iau, wedi iddyn nhw drechu Lincoln Red Imps, o Gibraltar, o 3-2 dros ddau gymal yn y rownd flaenorol.

Mi fydd Sgorio yn dangos y gêm yn fyw am 7.30yh, gyda’r gic gyntaf am 7.45yh. Yn ogystal ag ar deledu, mi fydd y gêm yn cael ei dangos yn fyw ar wefan S4C, s4c.cymru, ac ar dudalen Facebook Live Sgorio.

Bydd enillwyr y rownd yn wynebu Malmö FF o Sweden neu Vidi FC o Hwngari yn rownd ragbrofol olaf y gystadleuaeth.