Y Seintiau Newydd yn sicrhau pencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru am y seithfed tymor yn olynol

29390697_10154983544996887_610868477_o
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Gwener, 23 Mar 2018, 21:40

Yn dilyn colled Y Bala yn erbyn Cei Connah nos Wener, 23 Mawrth mae’r Seintiau Newydd wedi eu coroni’n bencampwyr Cymru am y 12fed tro yn eu hanes.

Roedd angen i’r Bala guro Cei Connah os am unrhyw obaith o ddal y clwb o Groesoswallt, ond gan i’r Nomadiaid ennill 0-1 ym Maes Tegid mae tîm Scott Ruscoe yn sicr o orffen ar ben y domen gyda phum gêm yn weddill.

Bydd Ruscoe yn ddigon balch o gwblhau’r dwbl yn ei dymor cyntaf wrth y llyw (UG Cymru a Cwpan Nathaniel MG), er y byddai’n sicr wedi hoffi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru a Chwpan Irn Bru hefyd.

Y Seintiau Newydd yw tîm mwyaf llwyddiannus holl hanes UG Cymru, ac mi fydd y clwb nawr yn cynrychioli Cymru yng Nghynghrair y Pencampwyr dros yr haf.

Cyn hynny, bydd y Seintiau’n croesawu Derwyddon Cefn i’w cartref yn Neuadd y Parc brynhawn Sul o flaen camerau byw Sgorio, ac yn cael eu cyflwyno gyda thlws trawiadol Uwch Gynghrair Cymru JD.

Y Seintiau Newydd v Derwyddon Cefn | Dydd Sul – 13:45 (S4C)