Y Seintiau’n cipio’r Cwpan!

DUAibblWAAAX088.jpg large
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sadwrn, 20 Jan 2018, 19:45

Scott Ruscoe yn ennill ei dlws cyntaf fel rheolwr wrth i’r Seintiau Newydd godi Cwpan Nathaniel MG am y bedwerydd tymor yn olynol. Jamie Mullan sgoriodd unig gôl y gêm mewn buddugoliaeth o 0-1 dros Met Caerdydd ar Goedlan y Parc, Aberystwyth.

Llwyddodd Jamie Mullan sgorio unig gôl y gêm wrth i dîm Scott Ruscoe guro Met Caerdydd yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG 2018.

Dyma’r bedwerydd blwyddyn yn olynol i’r Seintiau ennill tlws Nathaniel MG a dyma tlws cyntaf Scott Ruscoe fel rheolwr.

Mae’r Seintiau y nawr yn edrych i gyflawni’r ‘quadruple’ hanesyddol gan eu bod 12 pwynt yn glir ar frig Uwch Gynghrair Cymru, yn cystadlu ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru penwythnos nesaf ac wedi camu i rownd gyn-derfynol cwpan her Irn-Bru yr Alban.

Heddiw mewn hanes

20 Ebrill

Ar y diwrnod yma ym 1994, dechreuodd Mike Smith ei ail gyfnod wrth y llyw â thîm cenedlaethol Cymru.