Ymdrech arwrol gan Y Seintiau

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 18 Jul 2018, 08:49

Roedd hi’n ymdrech arwrol gan Y Seintiau Newydd wedi iddyn nhw drechu Skendija o 4-0 yn Neuadd y Parc nos Fawrth yn ail gymal rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr – ond i dîm Scott Ruscoe golli 5-4 ar gyfartaledd goliau yn rownd gyntaf gemau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Roedd her fawr yn wynebu Scott Ruscoe a’u fechgyn wedi iddyn nhw gael crasfa o 5-0 yn cymal cyntaf rownd gyntaf Cynghrair y Pencampwyr yr wythnos diwethaf yn Skopje.

Llwyddodd y tîm cartref i rwydo tair gôl o fewn 15 munud yn hanner cyntaf yr ail gymal gyda Dean Ebbe yn agor y llifddorau cyn i Daniel Redmond sgorio ei gôl gyntaf i’r clwb a’r bachgen ar fenthyg o Abertawe, Ben Cabango yn rhwydo’r drydedd pum munud yn ddiweddarach.

Y Seintiau ar y blaen o 3-0 cyn yr egwyl.

Er i’r eilydd Kurtis Byrne ychwanegu pedwaredd wedi 6 munud o amser ychwanegol, methodd y tîm cartref â chanfod gefn y rhwyd i sicrhau’r gôl allweddol ac yn syrthio allan o Gynghrair y Pencampwyr ar ôl colli 4-5 dros y ddau gymal.

Bydd Y Seintiau Newydd yn disgyn i ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa, gyda pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru yn wynebu Lincoln Red Imps o Gibraltar.