5-y-penwythnos

5 y penwythnos
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 7 Ion 2019, 19:58

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

Alex Ramsay – Caernarfon
Fe wnaeth golwr Caernarfon sawl arbediad dda i gadw’r Cofis yn y gêm ar ôl i Liam Thomas sgorio o’r smotyn i Gaerfyrddin.
Mae Ramsay wedi bod yn allweddol wrth i Gaernarfon gyrraedd y Chwech Uchaf y tymor hwn.

Will Evans – Met Caerdydd
Dwy gôl i’r chwaraewr canol cae wrth i Met Caerdydd ennill ddwy gêm gynghrair yn olynol.
Ar ôl tymor anodd i’r Myfyrwyr mae Met wedi dringo’r tabl i’r 7fed safle ac yn edrych yn gryf i gystadlu am le yn y gemau ail gyfle ar ôl yr hollt.

Michael Bakare – Cei Connah
Noson brysur i’r blaenwr wrth iddo Sgorio a chreu’r gôl olaf i Rob Hughes mewn buddugoliaeth 1-6 dros Aberystwyth nos Wener.
Mae Bakare yn profi ei hun fel un o chwaraewyr gorau’r gynghrair y tymor hwn ar ôl rhwydo 10 a chreu 8 i’r Nomadiaid wrth i dîm Andy Morrison eistedd ar frig y gynghrair.

Jordan Cotterill – Y Barri
Sgoriodd Cotterill ei hat tric gyntaf i’r Barri dros y penwythnos mewn buddugoliaeth 2-5 dros Derwyddon Cefn ar Y Graig.
Mae Cotterill wedi rhwydo chwe gôl y tymor yma wrth i’r Barri barhau i frwydro ger y brig.

Darren Thomas – Caernarfon
Y Cofi Messi yn parhau i ddiddannu’r dorf ar Yr Oval wrth iddo sgorio a chreu i’r Cofis dydd Sadwrn.
Mae Caernarfon wedi sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf ar ôl y fuddugoliaeth 3-1 dros Gaerfyrddin dydd Sadwrn.