5-y-penwythnos

5 y penwythnos
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 14 Ion 2019, 19:10

Sgorio sydd yn dewis tim 5-bob-ochr Uwch Gynghrair Cymru yr wythnos.

Alex Ramsay – Caernarfon
Ramsay oedd seren y gêm yn erbyn Y Bala nos Sadwrn ar ôl sawl arbediad allweddol i gadw’r Cofis yn y gêm drwy’r hanner cyntaf.
Mae Ramsay wedi profi ei hun i fod yn un o golwyr gorau’r gynghrair gan gadw 8 lechen lân mewn 22 gêm y tymor hwn.

Macauley Southam-Hales – Y Barri
Roedd Southam-Hales yn ddraenen yn ystlys Aberystwyth nos Sadwrn wrth greu dwy o’r goliau mewn buddugoliaeth o 2-1 ar Barc Jenner.

Mae rhediad arbennig Y Barri yn parhau a bydd bechgyn Gavin Chesterfield yn gorffen rhan gyntaf o’r tymor ar frig Uwch Gynghrair Cymru – ac am y tro cyntaf ers 7 blynedd NID Y Seintiau Newydd sydd ar y brig ar yr hollt!

Chris Baker – Met Caerdydd
Llwyddodd Baker i greu’r ail a sgorio’r drydedd o goliau’r Myfyrwyr nos Sadwrn – ergyd nerthol o du allan i’r cwrt cosbi.

Mae Met wedi ennill 3-0 am y trydydd gêm yn olynol ac yn gobeithio am ganlyniad tebyg dydd Sadwrn nesaf yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG.

Kurtis Byrne – Y Seintiau Newydd
Sgoriodd y Gwyddel ei hat-tric cyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru wrth i’r Seintiau gurro Llanelli 5-0 ar Neuadd y Parc nos Sadwrn.

Mae Byrne wedi sgorio 7 yn UG Cymru y tymor hwn, 6 gôl yn ei bum gêm ddiwethaf.

Liam Thomas – Caerfyrddin
Sgoriodd Thomas ei 100fed gôl i’r Hen Aur nos Sadwrn wrth i Gaerfyrddin guro Cei Connah 3-2 ar Barc Waun Dew.

Mae Thomas wedi dechrau 120 gêm yn olynol yn UG Cymru, record sy’n estyn yn ôl i Ebrill 2015.