5-y-penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru.

Dan Bradley (Cambrian a Clydach)
Dan Bradley oedd yr arwr i Cambrian a Clydach bnawn Sadwrn wrth iddo arbed ddwywaith o’r smotyn i yrru’r clwb o Gynghrair y De i’r wyth olaf am y tro cyntaf yn eu hanes.

Jamie Crowther (Caernarfon)
Y chwaraewr canol cae oedd seren y gêm yn y ddarbi fawr nos Sadwrn ar ôl perfformiad amddiffynnol disgybledig, a Crowther greodd y gôl fuddugol gyda chroesiad berffaith gyda’i droed chwith.

Corey Shephard (Cambrian a Clydach)
Sgoriodd Corey Shephard gôl gofiadwy o’i hanner ei hun yn erbyn Y Rhyl ddydd Sadwrn. Mae Cambrian wedi gwneud yn rhyfeddol i gyrraedd wyth olaf Cwpan Cymru yn ogystal â chyrraedd ffeinal Cwpan Nathaniel MG eleni.

Jonathan Hood (Y Barri)
Fe rwydodd Jonathan Hood un o goliau gorau’r tymor gyda tharan o ergyd i’r gornel uchaf yn erbyn y Derwyddon ar Barc Jenner i roi’r Barri yn yr het ar gyfer yr wyth olaf.

Adam Roscrow (Met Caerdydd)
Ar ôl perfformiad disglair yn erbyn Cambrian a Clydach yn ffeinal Cwpan MG y penwythnos diwethaf, roedd Roscrow yn brysur unwaith eto’r penwythnos yma ac yn lond llaw i amddiffyn Aberystwyth ar Goedlan y Parc.