5-y-penwythnos

5 y penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos.

Paul Harrison (Y Seintiau Newydd)
Mae ‘na dros 560 o funudau ers i Paul Harrison ildio gôl i’r Seintiau Newydd yn UG Cymru. Ar ôl sicrhau eu 6ed llechen lân yn olynol yn y gynghrair mae’r pencampwyr o fewn dau bwynt i’r brig gyda gêm wrth gefn.

Michael Bakare (Cei Connah)
Serenodd Michael Bakare yn ei 50fed gêm yn UG Cymru gan sgorio ei 20fed gôl yn y gynghrair. Mae’r asgellwr yn mwynhau tymor rhagorol gan ei fod wedi sgorio 12 a chreu 11 o goliau i’r clwb sydd ar y copa.

Ryan Brobbel (Y Seintiau Newydd)
Sgoriodd Ryan Brobbel unwaith ac fe greodd dair arall wrth i’r Seintiau daro pump yn erbyn Y Drenewydd nos Wener. Mae’r chwaraewr canol cae creadigol wedi rhwydo saith gôl yn ei chwe gêm gynghrair ddiwethaf.

Geoff Kellaway (Aberystwyth)
Mae’r bytholwyrdd Geoff Kellaway yn cadw ei le ym 5-y-penwythnos ar ôl perfformiad disglair arall. Ar ôl sgorio ddwywaith ar Barc Stebonheath nos Wener, y ‘Kellaway Express’ yw prif sgoriwr Aber yn UGC y tymor yma gyda saith o goliau (4 o rheiny yn erbyn Llanelli).

George Harry (Llandudno)
Mae Llandudno wedi gorfod disgwyl pum mis ers eu buddugoliaeth ddiwethaf yn UG Cymru ac roedd angen dwy gôl gan eu prif sgoriwr George Harry i drechu’r Hen Aur brynhawn Sadwrn. Mae’r triphwynt yn gadael tîm Llandudno o fewn saith pwynt i’r Derwyddon yn y 10fed safle.