5-y-penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos.

John Danby (Cei Connah)
Danby oedd yr arwr i’r Nomadiaid nos Sadwrn wrth iddo arbed ddwywaith o’r smotyn i yrru Cei Connah i rownd derfynol Cwpan Her Irn Bru. Y Nomadiaid yw’r clwb cyntaf erioed o du allan i’r Alban i gyrraedd ffeinal y gystadleuaeth.

Ryan Kershaw (Derwyddon Cefn)
Sgoriodd Kershaw gôl hyfryd yn erbyn Aberystwyth nos Wener, cyn creu’r drydedd gôl i’r Derwyddon. Hon oedd buddugoliaeth gyntaf y Derwyddon ers mis Rhagfyr.

Alex Fletcher (Y Drenewydd)
Ar ôl rheoli’r gêm yng nghanol cae, Alex Fletcher rwydodd y gôl fuddugol i’r Drenewydd brynhawn Sadwrn. Y Robiniaid yw’r unig glwb sydd heb golli pwynt yn erbyn y Cofis yn UGC y tymor yma.

Jonathan Hood (Y Barri)
Roedd hi’n edrych fel bod y Seintiau ar eu ffordd i frig y tabl brynhawn Sadwrn cyn i Jonathan Hood baratoi i gymryd cic rydd yn y 97fed munud. Gyrrodd Hood roced o ergyd i’r gornel uchaf i gadw’r Barri yn y ras am y bencampwriaeth.

Liam Thomas (Caerfyrddin)
Roedd Liam Thomas yn dechrau ei 200fed gêm yn UG Cymru nos Wener, ac fe ddathlodd y garreg filltir drwy sgorio ei hatric cyntaf erioed yn y gynghrair. Mae’r blaenwr wedi dechrau 123 o gemau yn olynol yn UGC ers mis Ebrill 2015 – record rhyfeddol i chwaraewr allanol.