5-y-penwythnos

5 y penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru dros y penwythnos.

Dan Evans (Met Caerdydd)
Y myfyrwyr oedd yr unig rai i gadw llechen lân yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru, ac er i’r Bala guro ar y drws am 120 munud fe arhosodd Dan Evans yn gadarn i sicrhau bod Met yn yr het ar gyfer y rownd gynderfynol.

Rob Hughes (Cei Connah)
Rob Hughes oedd seren y gêm ar yr Oval nos Wener, yn rhwydo’n hyfryd gyda’i droed dde funudau ar ôl iddo daro’r trawst gyda chynnig tebyg ar ei droed chwith. Mae Cei Connah wedi cyrraedd y rownd gynderfynol am y pedwerydd tymor yn olynol.

Eliot Evans (Met Caerdydd)
Roedd angen peniad hwyr gan Eliot Evans yn yr amser ychwanegol i yrru’r Bala allan o Gwpan Cymru brynhawn Sadwrn. Hon oedd 12fed gôl Evans ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn.

Kayne McLaggon (Y Barri)
Am wythnos oedd hi i Kayne McLaggon, dyweddio yn Efrog Newydd cyn hedfan adre fore Sadwrn ac yna sgorio ei hatric cyntaf i’r Barri nos Sadwrn i yrru’r Dreigiau ymlaen i’r rownd gynderfynol.

Greg Draper (Y Seintiau Newydd)
Sgoriodd Greg Draper bum gôl wrth i’r Seintiau roi crasfa i Landudno brynhawn Sadwrn (1-8), gan ei gwneud hi’n gyfanswm o 26 gôl i’r blaenwr y tymor hwn. Hon oedd buddugoliaeth fwyaf YSN yng Nghwpan Cymru ers curo Penrhiwfer 11-0 ym mis Tachwedd 2004.