5-y-penwythnos

5 y penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos.

Terry McCormick (Aberystwyth)
Dyw’r ras rhwng Aber a Met am safle yn y gemau ail gyfle ddim drosodd o bell ffordd – ac mae lot o’r diolch yn mynd i Terry McCormick am hynny. Ac yntau bron yn 36 oed, arbedion McCormick sydd wedi bod yn sylfaen i ganlyniadau gwych Aber yn ddiweddar.

Ryan Brobbel (Y Seintiau Newydd)
Mae Ryan Brobbel ar dân ar hyn o’r bryd – ei ddwy gôl yn gyrru’r Seintiau yn ôl i gopa’r gynghrair ac yn golygu ei fod wedi sgorio 10 gôl yn ei 10 gêm ddiwethaf yn y gynghrair. Pa mor arwyddocaol fydd y goliau yma yn y ras am y bencampwriaeth tybed…?

Michael Bakare (Cei Connah)
Yn anffodus i Gei Connah, doedd Bakare ddim yn medru achub gobeithion y Nomadiaid o fod y tîm cyntaf o du allan i’r Alban i ennill Cwpan Irn Bru. Ond, sgoriodd gôl hyfryd i ychwanegu i’w gasgliad y tymor hwn, yn ogystal â chwarae ei ran yn rhoi Uwch Gynghrair Cymru ar y map.

Momodou Touray (Y Barri)
Mi fydd amddiffynwyr Caernarfon yn falch o weld cefn Mo Touray ar ôl y grasfa ar Barc Jenner ddydd Sadwrn – yn enwedig Joe Williams! Cafodd y cefnwr ei hel o’r maes ar ôl troseddu’r blaenwr yn yr ail hanner. Sgoriodd Touray ddwy gôl yn ogystal â chreu gôl Kayne McLaggon yn y funud gyntaf i sicrhau buddugoliaeth cyntaf Y Barri yn UGC ers yr hollt.

Jack Kenny (Derwyddon Cefn)
Perfformiad ardderchog Jack Kenny oedd yn gwahanu Cefn a Llanelli ar y penwythnos. Ei ddwy gôl yn sicrhau safle Cefn yn y gynghrair am dymor arall, yn ogystal â buddugoliaeth gyntaf ar Barc Stebonheath i’r Derwyddon ers 2004.