5-y-penwythnos

5 y penwythnos 2
Cai Thomas

Cai Thomas

Dydd Llun, 8 Ebr 2019, 19:02

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos.

Alex Ramsay (Caernarfon)
Mae Alex Ramsay’n parhau i ryfeddu yn Uwch Gynghrair Cymru – ei arbedion campus ar gamerâu Sgorio nos Wener yn golygu ei fod wedi cadw 12 llechen lân yn Uwch Gynghrair Cymru, gyda thair o’r rhain yn dod yn erbyn Cei Connah!

Wes Baynes (Aberystwyth)
Mi fydd chwaraewyr fel Wes Baynes yn allweddol yn y ras am y seithfed safle rhwng Aber a Met – y cefnwr yn sgorio gôl ardderchog yn ogystal â chreu gôl Marc Williams i godi Aber i seithfed safle.

Jordan Evans (Derwyddon Cefn)
Er bod safle’r Derwyddon yn UGC eisoes wedi ei sicrhau ar gyfer tymor nesaf, dyw perfformiadau’r Hynafiaid heb waethygu. Jordan Evans serennodd ar Y Graig – ei gôl ardderchog a’i fflic taclus i greu gôl Jordan Davies yn ddigon i syfrdanu myfyrwyr y Met.

Greg Draper (Y Seintiau Newydd)
Ar ôl sgorio’i drydedd hatric o’r tymor ar y penwythnos, mae Greg Draper bellach wedi cyrraedd 24 gôl yn UGC eleni – ei gyfanswm uchaf ers ymuno â’r Seintiau yn 2011. Ac yntau wedi dechrau dim ond wyth gêm y tymor hwn, mae’r gŵr o Seland Newydd yn sgorio gôl yn y gynghrair bob 36 munud ar gyfartaledd.

Momodou Touray (Y Barri)
Dyma’r ail wythnos yn olynol i Touray gael ei gynnwys ym Mhump y Penwythnos – a’r ymosodwr yn hollol haeddiannol o hynny. Yn ogystal â chreu dwy gôl, Touray sgoriodd y drydedd gôl i sicrhau dychweliad Y Barri i Ewrop – rhywbeth sydd heb ddigwydd ers 2003!