5-y-penwythnos

5 y pen
Cai Thomas

Cai Thomas

Dydd Llun, 15 Ebr 2019, 18:07

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

Paul Harrison (Y Seintiau Newydd)
Yn ogystal â’r gamp o gapteinio’r Seintiau Newydd i’r 13eg bencampwriaeth a’u 8fed yn olynol, mae Harrison wedi cadw 19 llechen lân y tymor hwn. Dyma’r nifer uchaf ers i’r Deuddeg Disglair gael ei gyflwyno. Dyw’r golwr profiadol heb ildio yn ei 3 gêm ddiwethaf yn UGC.

Jamie Mullan (Y Seintiau Newydd)
Ar ôl creu’r ddwy gôl olaf ar Barc Jenner y penwythnos diwethaf, mae prif grewr y gynghrair Jamie Mullan bellach wedi creu 16 gôl – un yn fwy na’i gyfanswm llynedd. Roedd ei gôl wych hefyd yn golygu ei fod wedi sgorio 10 gôl mewn tymor am y tro cyntaf yn ei yrfa.

Nathan Woolfe (Cei Connah)
Yn ei gêm gyntaf yn ôl ers dychwelyd i Gei Connah, roedd Nathan Woolfe mor beryglus â blaidd llwglyd. Sgoriodd Woolfe hatric wych ar Faes Tegid, a chwaraeodd ran yn y bedwaredd gôl er mwyn gwthio Cei Connah un cam ymhellach tuag at sicrhau safle yng Nghwpan Irn Bru’r tymor nesaf.

Darren Thomas (Caernarfon)
Am berfformiad gan y Cofi Messi y penwythnos diwethaf! Ei bas wych yn rhyddhau Danny Brookwell am y gôl gyntaf, a’i gôl daclus yn yr ail hanner yn ddigon i godi’r Canerîs uwch ben Y Drenewydd yn y ras am y 4ydd safle. Os yw’r Cofis yn gorffen yn 4ydd, mi fydd Caernarfon yn chwarae’r tîm sy’n gorffen yn 7fed ar yr Oval yn y gemau ail gyfle.

Madison Schupbach (Menywod Met Caerdydd)
Madison Schupbach serennodd ar Barc y Ddraig yn Rownd Derfynol Cwpan Merched Cymru’r penwythnos diwethaf – ei ddwy gôl yn sicrhau’r trebl i Fenywod y Met yn ogystal â thymor heb golli gêm!