5-y-penwythnos

5 y pen
Cai Thomas

Cai Thomas

Dydd Llun, 29 Ebr 2019, 18:33

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos.

Keighan Jones (Y Bala)
Gyda Ashley Morris wedi ei anafu, dangosodd Keighan Jones ei fod yn ddirprwy dibynadwy i’r Bala. Ei arbedion safonol yn ysbrydoli’r Bala i fuddugoliaeth gyntaf dros Gaernarfon yn Uwch Gynghrair Cymru. Dyma oedd llechen lân cyntaf Keighan Jones yn UGC.

George Hughes (Y Drenewydd)
Dyw George Hughes ddim yn sgorio’n aml, ond am ffordd i sgorio’i gôl gyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru. Ei ergyd hyfryd wedi awr o chwarae yn helpu sicrhau’r bumed safle i’r Drenewydd.

Tim Parker (Met Caerdydd)
Ar ôl disgwyl bron i ddau dymor am ei gôl gyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru, sgoriodd Parker ddwywaith yn erbyn Llanelli’r penwythnos diwethaf! Chwaraeodd Parker ran allweddol yn y fuddugoliaeth yn y brifddinas ar ôl i’r myfyrwyr ildio’r gôl gyntaf.

Liam Thomas (Caerfyrddin)
Yn dilyn ei ail hatric o’r tymor ar y penwythnos, mae Liam Thomas wedi cyrraedd 24 gôl yn UGC eleni – ei gyfanswm uchaf erioed! Dyma’r nifer fwyaf mewn tymor UGC gan chwaraewr Caerfyrddin.

Jack Kenny (Derwyddon Cefn)
Ers gadael Cei Connah ym mis Ionawr, dyw Jack Kenny heb edrych yn ôl. Ei ddwy gôl yn erbyn Llandudno’r penwythnos diwethaf yn golygu ei fod wedi sgorio chwe gôl yn ei pum ymddangosiad diwethaf yn y gynghrair.