5-y-penwythnos

5 y pen 2019_16x9

Mae Uwch Gynghrair Cymru JD yn ôl ac mae Sgorio yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos.

Josh Tibbetts (Y Bala)
Ar ôl ymuno o Southport yn ystod yr haf, mae Josh Tibbetts wedi creu argraff yn barod yn Y Bala. Chwaraeodd ran allweddol yn y fuddugoliaeth dros Airbus Nos Wener wrth iddo wneud sawl arbediad campus yn yr ail hanner. Dywedodd Colin Caton y bydd hi’n anodd i Ashley Morris adennill ei le yn y tîm cyntaf oherwydd perfformiadau campus Tibbetts.

Curtis Strong (Airbus UK)
Roedd hi’n ddechrau cryf i’r tymor i Curtis Strong – ei ergyd ardderchog i gornel uchaf y rhwyd oedd gôl gyntaf Airbus UK yn Uwch Gynghrair Cymru ers 2017.

Marc Williams (Aberystwyth)
Am ddechrau i’r tymor i Marc Williams – sgoriodd ddwy gôl yn erbyn Cambrian a Clydach yng Nghwpan Nathaniel MG ar ddechrau’r tymor cyn sgorio dwy gôl arall y penwythnos diwethaf yn erbyn Caerfyrddin. Perfformiadau ysbrydoledig gan y capten.

Ryan Brobbel (Y Seintiau Newydd)
Mae Brobbel wedi dechrau’r tymor newydd fel y gorffennodd o’r tymor diwethaf – ar dân! Ei gic rydd nerthol heibio Alex Ramsay yn sicrhau triphwynt i’r Pencampwyr ar Neuadd y Parc.

Jonathan Hood (Y Barri)
Un peth sy’n sicr am Jonathan Hood – nid yw’n sgorio goliau hawdd! Taniodd hanner foli anhygoel heibio Rhys Wilson i sicrhau triphwynt i’r Barri. Ond, yn anffodus i Hood, aeth pethau’n sur yn gyflym iawn ar ôl iddo sgorio. Cafodd ei hel o’r maes gan Iwan Griffith am ddefnyddio iaith gref ar y fainc.