5-y-penwythnos

5 y pen 2019_16x9

Mae Sgorio wedi dewis pump chwaraewr wnaeth serennu i’w clybiau yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos.

Rhys Wilson (Pen-y-bont)
Rhys Wilson yn effeithiol yn y gôl dros Pen-y-bont gan gynorthwyo i sicrhau pwynt cyntaf i’r clwb sydd yn ymddangos am y tro cyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru.

Billy Whitehouse (Y Seintiau Newydd)
Roedd Y Seintiau yn awyddus i daro nôl ar ôl eu colled yn erbyn Y Bala Nos Wener. Dyna’n sicr be wnaethant wrth drechu Aberystwyth o 1-10. Rhaid rhoi clod i’r dyn sgoriodd deirgwaith, Whitehouse, a wnaeth gasglu’r bêl yn wobr ar ddiwedd y gêm. Prynhawn i’w anghofio i Anthony Pennock yn y gôl dros Aber a gasglodd y bêl honno ddeg o weithiau o gefn ei rwyd. Y fuddugoliaeth i’r Seintiau’n gyfartal â’r uchaf erioed oddi cartref yn hanes y gynghrair.

Lifumpa Mwandwe (Y Drenewydd)
Ers ymuno â’r Drenewydd ar fenthyg yn ystod yr haf – mae’r chwaraewr ifanc, Mwandwe, wedi amlygu ei hun. Gwnaeth dipyn o argraff wedi iddo ddod oddi ar y fainc yn erbyn Caerfyrddin nos Wener a thrawodd gôl gampus yn erbyn Pen-y-bont yn eu gêm gyfartal ddoe.

Chris Venables (Y Bala)
Ymhlith y rhai sydd wedi ymddangos fwyaf yn hanes yr Uwch Gynghrair, mae’r chwaraewr profiadol yn dal i serennu. Sgoriodd ddwy i guro’r pencampwyr nos Wener.

Kayne McLaggon (Y Barri)
Does dim amheuaeth fod Kayne heb golli ei ‘sgidiau saethu dros yr haf. 4 gôl mewn 3 gêm i’r gŵr lleol o’r Barri. Yn arf effeithiol wrth i’r Barri gael cychwyn da i’r tymor.