5-y-penwythnos

5 y pen 16×9

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

Paul Harrison (Y Seintiau Newydd)
Dyma ddeuddegfed tymor Paul Harrison gyda’r Seintiau Newydd ac mae’r safonnau’n parhau i fod yn uchel. Chwaraeodd ran allweddol wrth i’r Pencampwyr sicrhau triphwynt hollbwysig ar Neuadd y Parc yn erbyn Pen-y-bont.

Darren Thomas (Caernarfon)
Am berfformiad gan y Cofi Messi nos Wener – y chwaraewr chwim yn creu gôl gyntaf y Cofis gyda chic gornel twyllodrus cyn sgorio gôl hyfryd o du allan i’r cwrt cosbi. Thomas yw prif sgoriwr y Cofis hyd yma gyda 2 gôl yn ei 2 ymddangosiad diwethaf yn Uwch Gynghrair Cymru JD.

Clayton Green (Y Barri)
Mae Clayton Green yn parhau i greu argraff y tymor hwn – ei ergyd nerthol yn ddigon i gipio’r fuddugoliaeth ar Barc Waun Dew ac i yrru’r Barri i gopa’r gynghrair wedi 4 gêm. Dyma ei ail gôl o’r tymor yn Uwch Gynghrair Cymru JD.

Michael Wilde (Cei Connah)
Mae Michael Wilde wedi hen arfer sgorio goliau pwysig i Gei Connah dros y blynyddoedd diwethaf ac mi sgoriodd un arall ar Faes Tegid nos Wener – ei beniad nerthol o groesiad James Owen yn sicrhau buddugoliaeth gyntaf i’r Nomadiaid yn Uwch Gynghrair Cymru JD y tymor hwn.

Marc Williams (Aberystwyth)
Y capten Marc Williams yn arwain drwy esiampl unwaith eto’r tymor hwn – ei hanner foli hyfryd yn ysbrydoli Aber i fuddugoliaeth pwysig ar Y Graig ac yn ymateb perffaith i’r grasfa 10-1 yn erbyn Y Seintiau Newydd wythnos yn ôl. Mae Williams yn gydradd prif sgoriwr Uwch Gynghrair Cymru gyda Kayne McLaggon a Chris Venables – i gyd wedi sgorio 4 gôl.