5-y-penwythnos

5 y pen 16×9

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y wythnos diwethaf.

Lewis Brass (Cei Connah)
Dyma tymor llawn cyntaf Lewis Brass i Gei Connah ac mae o’n sicr wedi dangos ei ddoniau hyd yn hyn. Cadwodd llechen lân yn erbyn Cove Rangers yng Nghwpan Her Yr Alban nos Sadwrn cyn ailadrodd y gamp nos Fawrth yn erbyn Derwyddon Cefn. Brass sy’n arwain y ffordd yn y gynghrair gyda 3 llechen lân – y nifer uchaf yn Uwch Gynghrair Cymru JD wedi 5 gêm. Dyw Brass heb ildio gôl mewn dros 300 munud ym mhob cystadleuaeth.

Stuart Jones (Y Bala)
Ar ôl mwynhau dechrau da i’r tymor, mae Stuart Jones wedi bod yn anlwcus i fethu cyrraedd 5-y-penwythnos tan rwan. Ond, ar ôl creu gôl Lassana Mendes a sgorio’r chweched gôl i goroni buddugoliaeth swmpus i’r Bala ym Mhen-y-bont, mae’r amddiffynnwr wedi mwy na haeddu ei le y tro hwn. Mae Stuart Jones wedi sgorio dwy gôl ac wedi creu tair gôl yn UGC y tymor hwn.

Kristian Platt (Airbus UK)
Sgoriodd Kristian Platt ei gôl gyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos – ac am ffordd i wneud! Ei gic rydd o bellter yn curo Connor Roberts ac yn chwarae rhan elfennol wrth i Airbus sicrhau eu pwyntiau cyntaf o’r tymor.

Ryan Brobbel (Y Seintiau Newydd)
Mae Ryan Brobbel yn creu enw i’w hun fel arbenigwr ciciau rhydd yn y gynghrair – sgoriodd un arall i gornel uchaf y rhwyd yn erbyn Y Drenewydd nos Fawrth wrth i’r Seintiau ddringo i gopa’r gynghrair. Sgoriodd gôl wych yn erbyn Stenhousemuir y penwythnos diwethaf hefyd.

Luke Bowen (Caerfyrddin)
Luke Bowen yn coroni ei hanner canfed ymddangosiad i Gaerfyrddin yn UGC mewn steil gyda gôl gofiadwy yn erbyn Met Caerdydd wrth iddo godi ei ergyd dros Alex Lang gyda thu allan i’w droed.