Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn y Cymru Premier yn yr wythnos ddiwethaf.
Dave Jones – Y Drenewydd
Roedd golwr Y Drenewydd, Dave Jones yn allweddol yn y fuddugoliaeth dros Y Bala ar Barc Latham prynhawn Sadwrn.
Fe lwyddodd i arbed ergyd nerthol Chris Venables, prif sgoriwr y Cymru Premier, i gadw’r gêm yn ddi-sgôr, cyn anelu cic hir uniongyrchol i lwybr Neil Mitchell wnaeth basio i George Harry rwydo’r gôl fuddugol Y Drenewydd.
Eto mae Dave Jones yn profi ei fod o yn un o’r golwyr gorau’r Cymru Premier.
Leo Smith – Caernarfon
Roedd Leo Smith yn rhan allweddol o chwarae ymosodol y Caneris dros y Sadwrn ac fe sgoriodd ei gôl gyntaf i’r clwb yn y fuddugoliaeth dros Ben-y-bont.
Nathan Wood – Pen-y-bont
Sgoriodd Wood gôl wych i unioni’r sgôr ar yr Oval prynhawn Sadwrn, ac anlwcus oedd y newydd ddyfodiaid i golli’r gêm yn y munudau olaf.
Hefyd fe greuodd Wood yr ail i’r ymwelwyr, croesiad i’r cwrt chwech gyda Curtis Jemmett-Hudson yn rhwydo heibio Alex Ramsay.
Michael Bakare – Cei Connah
Chwaraewr y tymor 2018/19 yn dangos ei ddoniau unwaith eto yng nghrys y Nomadiaid wrth sgorio gôl fydd sicr o gyrraedd rhestr fer Gôl y Mis Medi.
Dyma gôl gyntaf Michael Bakare yn y Cymru Premier y tymor yma yn y fuddugoliaeth 4-1 dros Aberystwyth – sy’n codi Cei Connah i’r trydydd safle wedi gemau’r penwythnos.
Ramirez Howarth – Derwyddon Cefn
Llwyddodd Ramirez Howarth i rwydo tair gôl fendigedig yn erbyn Caerfyrddin ddydd Sadwrn.
Dyma hat-tric cyntaf i’r Derwyddon Cefn yn y Gymru Premier ers Hydref 2014, a fydd ffyddloniaid y Graig yn edrych ‘mlaen am fwy gan yr ymosodwr ifanc sydd wedi arwyddo o Ashton United dros yr haf.