5-y-penwythnos

5 y pen 16×9

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

Michael Jones (Derwyddon Cefn)
Roedd Michael Jones yn anlwcus i beidio fod ar y tîm buddugol dydd Sul wrth iddo wneud sawl arbediad campus ar Barc Jenner. Roedd angen gôl hyfryd gan Chris Hugh i’w guro yn Y Barri.

Chris Hugh (Y Barri)
Am berfformiad gan Chris Hugh dydd Sul – ei ymdrech ardderchog yn sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Barri yn ogystal â’u codi i gopa’r gynghrair. Y gôl yma oedd ei gyntaf yn y gynghrair ers sgorio yn erbyn Caerfyrddin ym mis Rhagfyr llynedd.

Curtis Jemmett-Hutson (Pen-y-bont)
Chwaraeodd Curtis Jemmett-Hutson ran allweddol ym muddugoliaeth Pen-y-bont yn erbyn Airbus dydd Sadwrn – sgoriodd ddwy gôl i arwain ei dîm i’w triphwynt cyntaf o’r tymor yn ogystal â’u codi oddi ar waelod y gynghrair.

Aeron Edwards (Y Seintiau Newydd)
Roedd Aeron Edwards ar ei orau dydd Sadwrn – sgoriodd ddwy gôl yn ogystal â chreu gôl Kurtis Byrne i ysbrydoli’r Seintiau i ennill ar Barc Waun Dew ar ôl ildio dwy gôl fuan.

Will Evans (Met Caerdydd)
Pryd ‘di Will Evans ddim yn sgorio, mae o’n creu goliau! Enillodd gic o’r smotyn ar gyfer gôl Eliot Evans cyn iddo roi’r bêl ar blât i Dion Phillips sgorio ei gôl gyntaf yn UCG. Buddugoliaeth bwysig i Met sy’n cynyddu’r pwysau ar y timau tua’r brig.