5-y-penwythnos

5 y pen 16×9

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

Connor Roberts (Aberystwyth)
Ar ôl mynd ar rediad o bedair colled yn olynol, fe enillodd Aber eu pwynt cyntaf ers mis Awst diolch i gampau Connor Roberts. Y golwr profiadol yn llwyddo i gadw llechen lân tan y funud olaf wrth i Kostya Georgievsky rwydo’n hwyr yn y gêm.

Sion Spence (Y Barri)
Am wythnos i Sion Spence – sgoriodd ei gôl gyntaf i’r Barri yn ogystal â chreu gôl Keyon Reffell cyn cael ei gynnwys yng ngharfan Cymru d21 i wynebu Moldova. Llongyfarchiadau, Sion!

Lassana Mendes (Y Bala)
Chwaraeodd Lassana Mendes ran bwysig iawn yn y fuddugoliaeth i’r Bala ar y Graig nos Wener – sgoriodd y gôl gyntaf i dîm Colin Caton, a doedd y dathliad acrobatig ddim yn rhy ddrwg chwaith!

Michael Bakare (Cei Connah)
Michael Bakare gamodd i’r adwy yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn – yr asgellwr chwim yn sgorio dwy gôl i gipio triphwynt hollbwysig i’r Nomadiad. Mae Bakare wedi sgorio pedair gôl yn ei bedwar ymddangosiad diwethaf yn y gynghrair – prif sgoriwr Cei Connah yn UGC.

Jamie Breese (Caernarfon)
Dyma’r ail wythnos yn olynol i Jamie Breese gael ei gynnwys yn 5-y-pen – a’r ymosodwr yn hollol haeddianol o hynny! Sgoriodd Breese mewn gemau olynol am y tro cyntaf yn ei yrfa yn UGC. Mae goliau Breese wedi ennill naw pwynt i Gaernarfon y tymor hwn – chwaraewr allweddol yn yr ymosod i’r Canerîs.