5-y-penwythnos

5 y pen 16×9

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

Connor Roberts (Aberystwyth)
Roberts yn serennu dros y penwythnos er gwaethaf ildio dwy gôl. Gwnaeth sawl arbediad a hyd yn oed rheolwr Met Caerdydd yn disgwyl gweld ei enw yn cael ei ddewis ym 5-y-penwythnos.

Jon Routledge (Y Seintiau Newydd)
Cyfrannodd Routledge tuag at sawl gôl i’r Seintiau wrth drechu Airbus o 6-2. Chwaraewr allweddol i’r Seintiau. Bydd Ruscoe’n gobeithio cynnal yr un safon uchel yn y gemau i ddod a chyfrannu at rediad mwy cyfarwydd o ganlyniadau gan y pencampwyr.

George Peers (Airbus UK)
Tipyn o ymddangosiad cyntaf i’r bachgen ifanc George Peers wrth iddo ddod oddi ar y fainc a sgorio dwy gôl yn erbyn y pencampwyr. Er gwaetha’r sgor o 6-2 – ar ôl iddo yntau greu cymaint o argraff, mae’n siwr y bydd yn edrych ymlaen at fwy o ymddangosiadau i’r tîm o Frychdyn.

Louis Robles (Y Bala)
Penwythnos wych i Louis Robles – yn agor y sgorio yn erbyn Caerfyrddin gan gasglu ei drydedd o’r tymor. Creodd yr ail ar gyfer Chris Venables er mwyn selio’r fuddugoliaeth yn erbyn Yr Hen Aur a chreu sawl cyfle arall hefyd.

Greg Draper (Y Seintiau Newydd)
Greg Draper yn ffeindio’i esgidiau saethu’r wythnos yma wrth iddo daro pedair gôl, gan gynnwys un o’r smotyn, yn erbyn Airbus UK. Yn sicr, bydd YSN eisiau cario’r momentwm ymlaen a’r ôl colli dwy gêm yn olynol cyn y gêm hon.